Yn unol â’r fframwaith cyllidol y cytunwyd arno gan Lywodraethau Cymru a’r DU, rydym yn cael ein comisiynu’n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru i gynhyrchu rhagolygon annibynnol ar gyfer trethi datganoledig Cymru ochr yn ochr â’i Chyllidebau Drafft.
Cyhoeddwyd ein 2022 rhagolwg trethi Cymru (RTC) ochr yn ochr â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 ac mae’n nodi ein rhagolwg ar gyfer pob un o drethi datganoledig Cymru: Cyfraddau treth incwm Cymru, treth trafodiadau tir a threth dirlenwi Cymru.
Ar 28 Chwefror fe wnaethom gyhoeddi diweddariad i ragolwg trethi Cymru yn seiliedig ar ddatblygiadau diweddar mewn treth trafodiadau tir a derbyniadau treth gwarediadau tirlenwi, gan gynnwys gwerthusiadau o’n rhagolygon blaenorol.