Yn unol â’r fframwaith cyllidol a gytunwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig, rydym wedi’n comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynhyrchu rhagolygon annibynnol o drethi datganoledig Cymru. Fe wnaethom ymgymryd â’r rôl hon yn ffurfiol ym mis Ebrill 2019, gyda’r adroddiad cyntaf hwn yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20.
Mae ein rhagolwg trethi Cymreig (WTO) cyntaf yn amlinellu ein rhagolwg ar gyfer pob un o drethi datganoledig Cymru: cyfraddau treth incwm Cymru, treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi.
Ar 25 Chwefror fe wnaethom ddiweddaru ein rhagolwg trethi Cymreig Rhagfyr 2019 i adlewyrchu data newydd.