Yn unol â’r fframwaith cyllidol y cytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, rydym wedi cael ein comisiynu’n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru i lunio rhagolygon annibynnol ar gyfer trethi datganoledig Cymru, ochr yn ochr â’i Chyllideb Ddrafft a’i Chyllideb Derfynol.
Ar 17 Tachwedd, cyhoeddwyd ein prif ddogfen rhagolwg ar gyfer trethi Cymru, ochr yn ochr â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2027-28. Mae hon yn nodi ein rhagolwg ar gyfer pob un o drethi datganoledig Cymru: cyfraddau treth incwm Cymru, treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi, yn ogystal â’r amcangyfrif diweddaraf ar gyfer y sefyllfa dreth net.
