Yn unol â’r fframwaith cyllidol y cytunwyd arno gan Lywodraethau Cymru a’r DU, rydym yn cael ein comisiynu’n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru i gynhyrchu rhagolygon annibynnol ar gyfer trethi datganoledig Cymru ochr yn ochr â’i Chyllidebau Drafft.
Ar 14 Hydref cyhoeddwyd diweddariad i ragolygon trethi Cymru gyda rhagolygon newydd ar gyfer derbyniadau treth trafodion tir a threth gwarediadau tirlenwi.
