Yn unol â’r fframwaith cyllidol y cytunwyd arno gan Lywodraethau Cymru a’r DU, cawsom ein comisiynu’n ffurfiol ym mis Ebrill 2019 gan Lywodraeth Cymru i gynhyrchu rhagolygon annibynnol ar gyfer trethi datganoledig Cymru ochr yn ochr â phob Cyllideb Ddrafft. Fe wnaethom gyhoeddi ein hadroddiad cyntaf ochr yn ochr â Chyllideb Ddrafft 2020-21 Llywodraeth Cymru, ym mis Rhagfyr 2019.
Cyhoeddir ein rhagolwg trethi Cymru (WTO) diweddaraf ochr yn ochr â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 ac mae’n nodi ein rhagolwg ar gyfer pob un o’r trethi datganoledig yng Nghymru: Cyfraddau Cymru ar gyfer treth incwm, treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi.